Chwilio am ddyn adawodd ysbyty yn Nhorfaen

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Hedldu Gwent
Disgrifiad o’r llun, Does neb wedi gweld Ronald Bowman ers ddydd Gwener

Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth am ddyn 74 oed sydd wedi mynd ar goll o ysbyty.

Does neb wedi gweld Ronald Bowman ers iddo adael Ysbyty Panteg, Griffithstown, Torfaen, am 5.45pm ddydd Gwener Mehefin 29.

Mae'r heddlu yn bryderus am les Mr Bowman sy'n diodde' o ddementia.

Mae Mr Bowman wedi ei ddisgrifio fel dyn 6 troedfedd o daldra, yn colli ei wallt, sy'n llwyd.

Roedd yn gwisgo crys t gwyn, trowsus brown ac esgidiau brown.

Roedd yn cario bag ymolchi coch.

Mae'n dod o ardal Langstone o Sir Fynwy.

Os oes unrhyw un wedi gweld neu â gwybodaeth am leoliad Mr Bowman fe ddylen nhw gysylltu gyda'r heddlu ar 101.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol