Adnabod corff drwy DNA

Roger Wilyman, from Llanfair Talhaiarn, Conwy Image copyright North Wales Police
Image caption Bu Roger Wilyman ar goll ers Mai 18

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau mai corff Roger Wilyman a ganfuwyd ar draeth ar Ynys Môn yn gynharach yn y mis.

Nid oedd Mr Wilyman, 61 o Lanfair Talhaearn, wedi cael ei weld ers Mai 18.

Cafwyd hyd i'w gar ger Bae Trearddur, ac ers hynny mae criwiau bad achub, Gwylwyr y Glannau, criwiau hofrennydd a thimau cŵn arbenigol wedi bod yn rhan o'r chwilio amdano.

Cafwyd hyd i'w gorff ar Fehefin 23, ond bu'n rhaid defnyddio tystiolaeth DNA i'w adnabod.

Mae ymchwiliad yr heddlu i'r mater yn parhau, ac mae crwner y gogledd-orllewin, Dewi Pritchard Jones, wedi cael ei hysbysu ac wed iagor y cwest i'r farwolaeth.