Gwahoddiad i'r Urdd ymweld â Chaerffili yn 2015

Cyhoeddwyd
disgrifiad o’r llunFe fydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal ar dir y cyngor yn Llancaiach Fawr

Bydd Eisteddfod yr Urdd yn ymweld â Chaerffili ymhen tair blynedd.

Roedd 100 yn cyfarfod cyhoeddus nos Fercher ar y safle lle bydd yr Eisteddfod ei hun, plasty Llancaiach Fawr.

Mae'r Eisteddfod wedi cael cefnogaeth y cyngor sy'n berchen ar dir Llancaiach Fawr.

Dywedodd David Thomas o'r cyngor fod dod â'r ŵyl i'r sir yn bwysig.

'Cefnogi'r iaith'

disgrifiadAlun Thomas fu yn y cyfarfod cyhoeddus i glywed mwy am Eisteddfod 2015

"Mae mwy o ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg wedi agor yma ac mae 'na ymrwymiad i agor ysgol gyfun newydd.

"Hefyd mae mwy a mwy yn dysgu'r iaith yn y sir.

"Mae'r Gymraeg yn tyfu ac mae'r cyngor am gefnogi hynny."

Dywedodd Aled Sion, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd, y byddai her wahanol.

'Tactegau'

"Fe fydd hi mewn ardal ddi-Gymraeg ac felly fe fydd 'na dactegau gwahanol o ran codi ymwybyddiaeth am yr Eisteddfod.

"Fe fyddwn ni'n gwerthu'r Eisteddfod dipyn gwahanol i'r hyn wnaethpwyd yn Eryri eleni."

Ond cyn Caerffili fe fydd yr Eisteddfod yn Sir Benfro'r flwyddyn nesa' a Meirionnydd yn 2014.

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol