Achub 19 o ganŵ-wyr ar Afon Gwy
- Cyhoeddwyd

Dywedodd y gwasanaeth ambiwlans fod y dynion yn 'lwcus iawn'.
Mae canŵ-wyr wedi cael eu hachub ar ôl mynd i drafferth mewn afon oedd yn uchel ac yn llifo'n gyflym.
Cafodd 19 o ddynion o Gasnewydd eu tynnu o'r dŵr o Afon Gwy ychydig wedi 6pm nos Sadwrn.
Daethpwyd o hyd iddyn nhw rhwng Bishopswood a Lydbrook yn Sir Gaerloyw.
Cafodd y dynion driniaeth yn y fan a'r lle oherwydd effeithiau oerfel.
Aed ag un i'r ysbyty yn Henffordd.
Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth ambiwlans fod y dynion yn "lwcus iawn".