Cynllun £800,000 i adfer adeiladau tref Bae Colwyn
- Cyhoeddwyd

Gall dros £4 miliwn gael ei wario i adfer un o drefi gogledd Cymru a oedd yn ei hanterth yn ystod Oes Fictoria.
Datganodd Cronfa Dreftadaeth y Loteri fod yr arian ar gael wedi iddyn nhw addo £800,000 ar gyfer y gwelliannau diweddaraf i adeiladau ym Mae Colwyn.
Mae'r dref wedi cael ei gweddnewid yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae mwy o waith adfer ar y gweill.
Bydd y grant diweddaraf yn "gwella a diogelu cymeriad unigryw" adeiladau hanesyddol canol y dref.
Treftadaeth
Ymysg yr adeiladau fydd yn cael ei hadfer yw'r hen siop Woolworths, Gwesty'r Central a'r adeilad Art Deco sy'n gartref i A&A Cash and Carry.
Bydd y gwaith adnewyddu yn cynnwys adfer blaenau siopau â chanopïau haearn bwrw.
Mae 37 cynllun gwahanol yn cael eu hystyried gan gynnwys ail agor adeiladau gwag, creu gofod ar gyfer arddangosfeydd a chanolfan hanes lleol.
Bydd colegau lleol yn darparu cyrsiau adeiladu wedi'u seilio ar dreftadaeth a thechnegau adeiladu traddodiadol fydd yn helpu'r gwaith adfer a'r gwaith cynnal a chadw yn y dyfodol.
'Buddsoddiad'
Dyfarnwyd y grant gwerth £803,500 i Gyngor Conwy gan Fentr Treftadaeth Treflun (FTT) Cronfa Dreftadaeth y Loteri.
Dywedodd llefarydd ar ran Cronfa Dreftadaeth y Loteri: "Bwriad y cynllun hwn yw creu defnydd newydd a chynaliadwy i'r adeiladu fel bod busnesau newydd yn cael eu denu i' dref a hybu hunan hyder y gymuned leol."
Gall £4 miliwn gael ei wario ym Mae Colwyn dros gyfnod o bum mlynedd gan gynnwys arian cyfatebol o'r sector breifat mewn partneriaeth â Chyngor Conwy, Llywodraeth Cymru, CADW a Chronfa Dreftadaeth y Loteri.
Dywedodd y Cynghorydd Phillip Evans fod y grant diweddaraf "yn rhan annatod o adnewyddu'r dref" wedi i Parc Eirias gael ei ail agor a gwelliannau gwerth £5 miliwn i bromenâd y dref.
Yn ôl Prif Swyddog Cadwraeth Cyngor Conwy, Peter Jones Hughes mae cynlluniau tebyg wedi cael "effaith sylweddol" ar Benmaenmawr a Llanrwst.
"Mae'r buddsoddiad hwn mewn Bae Colwyn yn gyfle pwysig i sicrhau adfer adeiladau hanesyddol yr ardal," meddai.
Straeon perthnasol
- 29 Mai 2012
- 11 Ebrill 2012
- 22 Mawrth 2012
- 3 Ebrill 2012
- 26 Medi 2011