Rhyddhau rheithgor yn achos llofruddiaeth mab saith oed

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd corff Yaseen, saith oed, ei ddarganfod wedi tân yn ei gartref

Mae rheithgor achos mam ar gyhuddiad o lofruddio ei mab saith oed wedi cael ei ryddhau am nad oedd modd dod i benderfyniad.

Yn Llys y Goron Caerdydd roedd Sara Ege, 33 oed o Dreganna, Caerdydd, wedi gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth ac o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Roedd ei gŵr, Yousuf Ali Ege, 38 oed, wedi gwadu cyhuddiad o ganiatáu i blentyn farw drwy fethu â'i amddiffyn.

Cafodd corff Yaseen ei ddarganfod wedi tân yn ei gartre ym mis Gorffennaf 2010.

Dywedodd yr erlynydd, Ian Murphy, y byddai ail achos yn cael ei gynnal.

Straeon perthnasol