Casgliad crochenwaith Bwcle i'w weld am y tro cyntaf

Crochenwaith Image copyright Deborah Seymour
Image caption Mae sawl eitem yn y casgliad ag enw'r gwneuthurwr arno

Mae casgliad o grochenwaith a wnaed ym Mwcle, Sir y Fflint, yn cael ei arddangos yn amgueddfa'r dref am y tro cyntaf.

Casglwyd y crochenwaith dros gyfnod o 40 mlynedd gan arbenigwr lleol, Martin Harrison, a fu farw y llynedd.

Dywedodd curadur yr arddangosfa, Deborah Seymour, bod y casgliad o ddiddordeb arbennig oherwydd ei bod yn dangos amrywiaeth y crochenwaith.

"Mae llawer o bobl yn meddwl mai llestri pridd coch ymarferol yn unig a wnaed ym Mwcle," meddai.

"Ond mae casgliad Martin Harrison yn dangos nad yw hyn yn wir."

Meddai Ms Seymour, Prif Swyddog Amgueddfeydd Sir y Fflint, bod y casgliad hefyd o ddiddordeb oherwydd bod enw'r crochenwyr wedi eu marcio ar sawl darn.

"Mae hyn yn anarferol iawn ymysg crochenwyr Bwcle," meddai. "Doeddent ddim yn ei ystyried yn angenrheidiol fel arfer."

Nwyddau rhatach

Credir i'r diwydiant crochenwaith ddechrau yn ystod y Canol Oesoedd yn ardal Bwcle.

Image copyright Flintshire Record Office
Image caption Ollive Hayes oedd un o grochenwyr Bwcle

Wrth i drafnidiaeth wella daeth nwyddau rhatach i'r farchnad a dioddefodd crochenwyr Bwcle, a dueddai i fod yn grochendai bychan, teuluol, o ganlyniad i hyn.

Erbyn diwedd yr Ail Ryfel Byd roedd y diwydiant wedi dod i ben yn yr ardal.

Mae'r arddangosfa yn cynnwys gwaith gan Ollive Hayes, perchennog olaf crochendy Hayes oedd wedi bod yn ei deulu ers y 18fed ganrif.

Daeth gwaith ei grochendy i ben yn fuan wedi'r Ail Ryfel Byd a dymchwelwyd yr adeilad yn y 1960au.

Bydd Casgliad Martin Harrison o Grochenwaith Bwcle yn awr i'w weld yn barhaol yn amgueddfa Bwcle.

"Roedd e wedi treulio'i fywyd yn astudio a chasglu crochenwaith yr ardal," meddai Ms Seymour.

"Roedd am i'r casgliad aros yn Sir y Fflint felly cawsom grant i'w brynu gan Y Gronfa Gelf a Chronfa grant prynu'r V & A."

Mae yna tua 300 darn yn y casgliad a bydd 70 o ddarnau yn cael ei harddangos ar unrhyw un adeg.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.