Morgannwg yn ennill y 20/20 er y glaw
- Cyhoeddwyd

Curodd Morgannwg Swydd Warwick o bum rhediad trwy ddull Duckworth-Lewis yng nghystadleuaeth 20/20 Friends Life yn Stadiwm Swalec, Caerdydd nos Sul.
Cafodd y gêm ei chwtogi i 18 pelawd yr un ar ôl i law amharu ar fatiad yr ymwelwyr.
Sgoriodd Swydd Warwick 141 am 5 wiced ar ôl i Darren Maddy (49) a Varun Chopra (53) ychwanegu 91 rhediad am y drydedd wiced.
Bowliwr gorau Morgannwg oedd Dean Cosker a gipiodd ddwy wiced am 23 rhediad oddi ar bedair pelawd.
Sgoriodd Morgannwg 62 am un wiced oddi ar 8 pelawd gyda Shaun Marsh (30) a Jim Allenby (24) yn rhannu 48 am yr ail wiced cyn i law roi'r gorau i'r chwarae.
Oherwydd hynny bu'n rhaid dibynnu ar reolau Duckworth-Lewis gyda Morgannwg yn ennill o bum rhediad.
Swydd Warwick - 141 am 5 (18 pelawd)
Morgannwg - 62 am 1 (8 pelawd, targed 57)
Morgannwgyn fuddugol o 5 rhediad trwy ddull Duckworth-Lewis
Straeon perthnasol
- 3 Mehefin 2012
- 22 Ebrill 2012
- 12 Ebrill 2012