Achos Ege: Anfon rheithgor adre

Yaseen Ali Ege Image copyright Other
Image caption Cafodd corff Yaseen, saith oed, ei ddarganfod wedi tân yn ei gartref

Mae rheithgor achos mam ar gyhuddiad o lofruddio ei mab saith oed wedi eu hanfon adre.

Yn Llys y Goron Caerdydd mae Sara Ege, 33 oed o Dreganna, Caerdydd, wedi gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth ac o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Honnodd hi mai ei gŵr, Yousuf Ali Ege, 38 oed, laddodd eu mab Yaseen.

Mae'r tad wedi gwadu cyhuddiad o ganiatáu i blentyn farw drwy fethu â'i amddiffyn

Cyffesu

Honnodd Peter Burkitt QC ar ran yr amddiffyn nad oedd y tad yn gwybod fod ei wraig yn curo eu mab, Yaseen, am bedwar mis cyn ei farwolaeth.

Dywedodd Mr Burkitt nad oedd unrhyw un arall wedi amau'r fam dros gyfnod o bedwar mis.

Roedd yr erlynydd, Ian Murphy QC, wedi dweud bod y fam wedi cyffesu sawl tro ei bod wedi ymddwyn yn dreisgar, ar Orffennaf 26 a 28 ac Awst 3 a 10, 2010.

Ffrwydrad

Roedd ffrwydrad, meddai, o emosiynau oherwydd ei dicter ac oherwydd iddi golli rheolaeth.

"Ni fyddai actores enillodd Oscar yn gallu perfformio fel hyn am ddiwrnodau."

Mae'r erlyniad wedi honni bod y fam wedi lladd ei mab oherwydd ei anallu i ddysgu'r Coran ar ei gof.

Cafodd corff Yaseen ei ddarganfod wedi tân yn ei gartre ym mis Gorffennaf 2010.

Straeon perthnasol