Angen 'deddfwriaeth gadarn' i bobl hŷn
- Cyhoeddwyd

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol yn darparu deddfwriaeth gadarn i ddiogelu pobl hŷn sydd mewn perygl o niwed yn well.
Gwnaeth y Comisiynydd, Sarah Rochira, ei sylwadau cyn seithfed Diwrnod Ymwybyddiaeth Fyd-eang o Gam-drin Pobl Hŷn.
Mae'r digwyddiad blynyddol hwn yn annog gwell dealltwriaeth o gam-drin ac esgeuluso pobl hŷn mewn digwyddiadau o gwmpas y byd.
Ddydd Gwener bydd y comisiynydd yn bresennol mewn digwyddiad yn y Barri, Bro Morgannwg, sy'n cael ei drefnu gan y Fforwm Strategaeth Pobl Hŷn, ac a fydd yn tynnu sylw at yr angen i roi terfyn ar gam-drin yng Nghymru.
Deddfwriaeth
Dywedodd Sarah Rochira: "Mae cam-drin pobl hŷn yn ein cymdeithas yn annerbyniol.
"Rydyn ni'n clywed straeon yn y newyddion bron iawn bob dydd am bobl hŷn yn cael eu cam-drin.
"Mae sut rydyn ni'n trin ein pobl hŷn yn dweud llawer amdanon ni.
"Mae'r nifer mwyaf o achosion o gam-drin pobl hŷn yn y DU yn digwydd yng Nghymru, a chydnabyddir bod yn rhaid mynd i'r afael â hyn.
"Mae'r ddeddfwriaeth gyfredol i ddiogelu pobl hŷn yn ddryslyd a gall fod yn anodd ei defnyddio'n effeithiol.
"Rwy'n falch y bydd deddfwriaeth sy'n cynnig mwy o warchodaeth i bobl hŷn yn cael ei chynnwys yn y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol yn y dyfodol, sy'n rhywbeth y mae'r Comisiwn Pobl Hŷn wedi bod yn galw amdani ers sawl blwyddyn.
"Mae'n hynod bwysig bod y ddeddfwriaeth a gyflwynir gan Lywodraeth Cymru yn arwain at y canlyniadau gorau i bobl hŷn a all fod mewn perygl o niwed, ac mi fyddaf i'n gweithio mewn partneriaeth gyda mudiadau eraill i wneud yn siŵr mai dyma fydd yn digwydd."
Cynhelir y digwyddiad rhwng 9am a 4pm ddydd Gwener.
Bydd stondinau gwybodaeth yn darparu amrywiaeth eang o wybodaeth gan randdeiliaid sy'n gweithio gyda phobl hŷn ac sy'n gweithio ar eu rhan.
Straeon perthnasol
- 13 Mehefin 2012
- 4 Ebrill 2012
- 14 Tachwedd 2011
- 1 Hydref 2011
- 9 Ebrill 2012