Cystadleuwyr 2012 : Jade Jones

Image copyright Getty Images

Taekwondo

Ganwyd: 21/3/93

Mae'r ferch o'r Fflint yn un arall o obeithion mawr Cymru am fedal yn y Gemau Olympaidd yn Llundain.

Cafodd flwyddyn ysgubol yn 2010, gan ennill medal efydd ym Mhencampwriaeth Ewrop yn St. Petersburg, ac yna medal arian ym Mhencampwriaeth Ieuenctid y Byd yn Tijuana, Mecsico.

Ond ei champ fwyaf yn y flwyddyn honno oedd ennill medal aur yn y Gemau Olympaidd Ieuenctid yn Singapore.

Daeth coron ar y flwyddyn iddi pan gafodd ei dewis yn Bersonoliaeth Ifanc y Flwyddyn yng ngwobrau chwaraeon BBC Cymru.

Ffaith ddiddorol

Dechreuodd ymarfer y gamp Taekwondo pan yn wyth oed - ei thaid wnaeth ei hannog i ddechrau er mwyn iddi gael rhywbeth "i'w chadw oddi ar y strydoedd".