Cystadleuwyr 2012 : Hannah Mills

Image copyright Other

Hwylio (Dosbarth 470)

Ganwyd: 29/02/88

Uchafbwynt gyrfa

Enillodd Mills bencampwriaeth y byd gyda Saskia Clark ddeufis cyn y Gemau yn Llundain - y menywod cyntaf o Brydain i ennill medal aur yn y dosbarth 470.

Yn gyn bencampwr ieuenctid y byd, dechreuodd Mills ei phartneriaeth gyda Clark yn Chwefror 2011, ac o fewn dim roedd y ddwy wedi ennill medal efydd Ewropeaidd a medal arian ym Mhencampwriaeth y Byd.

Oeddech chi'n gwybod?

Cafodd Mills ei llongyfarch ar wefan Twitter gan y rapiwr Americanaidd Snoop Dogg wedi iddi gael ei dewis ar gyfer Llundain 2012.

Mewn fideo ymddangosodd ar wefan YouTube, dywedodd Snoop Dogg: "Showt mawr i Hannah Mills - merch 23 oed sydd newydd gyrraedd y Gemau Olympaidd!"

Cefndir

Oherwydd problemau gyda'i phen-glin, bu'n rhaid i Hannah rhoi'r gorau i chwarae tenis yn wyth oed, ond y syndod mawr yw ei bod yn cyfadde' bod ganddi ofn dŵr agored!

Straeon perthnasol

Hefyd ar y BBC

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.