Cystadleuwyr 2012: Sarah Thomas

Image copyright Getty Images

Hoci

Oed: 31

Gyrfa hyd yma

Sarah Thomas yw'r unig Gymraes yn nhîm hoci Team GB ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain 2012.

Fe fydd yn cystadlu yn y gemau am yr eildro wedi iddi ymddangos yn Beijing yn 2008.

Bu'n chwarae'n broffesiynol yn Yr Iseldiroedd, ac wedi bod yn gapten Cymru yn ystod ei gyrfa gan chwarae yng Ngemau'r Gymanwlad yn Delhi, 2010. Bu'n aelod o garfan Prydain ers 2003.

Cafodd ei geni yn Aberdâr a'i magu ym Merthyr Tudful gan ddechrau chwarae hoci yn 13 oed.

Dywedodd Sarah Thomas: "Rwy'n bendant yn credu y gallwn ennill medal.

"Heb amheuaeth mae'r tîm yn anelu am aur - dyna sut byddwn yn ymarfer a dyna'r meddylfryd sydd gennym."

Carfan hoci merched Team GB :

Ashleigh Ball, Laura Bartlett, Crista Cullen, Alex Danson, Hannah Macleod, Emily Maguire, Anne Panter, Helen Richardson, Chloe Rogers, Beth Storry, Sarah Thomas, Georgie Twigg, Laura Unsworth, Kate Walsh, Sally Walton, Nicola White.

Eilyddion wrth gefn:

Natalie Seymour ac Abi Walker