Cymru'n 'negyddol' tuag at fewnfudwyr

UK Border control queues Image copyright PA
Image caption Roedd yr ymchwil yn dangos gwahaniaeth mewn agweddau at fewnfudwyr ar draws Prydain

Mae astudiaeth yn awgrymu bod bron i chwarter pobl Cymru yn credu bod mewnfudwyr yn niweidio bywyd diwylliannol, tra bod un o bob pump yn credu eu bod yn ddrwg i'r economi.

Mae rhan arall o'r astudiaeth yn awgrymu bod mwy o Gymry yn credu bod mewnfudwyr yn ddrwg iawn i'r economi na phobl mewn unrhyw ardal arall heblaw gogledd Lloegr, o'i gymharu â'r Alban, Gogledd Iwerddon a Llundain a'r De-Ddwyrain.

Daeth canlyniadau'r astudiaeth o ddadansoddi arolygon agweddau yn y DU ac Ewrop.

Dywedodd Llywodraeth Cymru, a dalodd am yr ymchwil, bod Cymru yn parhau i fod "yn wlad groesawgar".

Datgelodd ymchwilwyr bod 10% o'r rhai a holwyd yn yr Alban yn credu bod mewnfudwyr yn niweidio bywyd diwylliannol, ond yng Nghymru roedd y ffigwr yn 25%.

Image copyright Getty Images
Image caption Mae gan rai ardaloedd o Gymru gymunedau ffyniannus o fewnfudwyr, fel y gymuned Bwylaidd yn Wrecsam

Cafodd yr ymchwil ei wneud dros gyfnod o 18 mis gan Dr Robin Mann a Dr Yvonne Tommis yn Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd Cymru, Data a Dulliau (Wiserd) ym Mangor.

Maen nhw'n gobeithio y bydd yn cael ei ddefnyddio i lywio polisïau ar fewnfudo a chydlyniad cymdeithasol yng Nghymru.

Fe wnaeth gwyddonwyr cymdeithasol Prifysgol Bangor ailedrych ar ganlyniadau dau arolwg a wnaed dros y ddegawd ddiwethaf - Arolwg Cymdeithasol Ewrop ar draws 30 o wledydd yr Undeb Ewropeaidd, ac Arolwg Dinasyddiaeth Cymru a Lloegr.

'Tuedd yn dod i'r amlwg'

Er eu bod yn pwysleisio bod samplau bychan o fewn y data yn golygu na ddylid cyrraedd canlyniadau pendant, roedd themâu wedi dod i'r amlwg.

Eglurodd Dr Mann: "Mae'n ymddangos bod tuedd yn datblygu sy'n gweld Cymru, Canolbarth Lloegr a Gogledd Lloegr ar un llaw yn dangos cefnogaeth i leihau lefelau mewnfudo ac agweddau mwy negyddol mewn cymhariaeth tuag at effaith mewnfudo.

"Ar y llaw arall yn Llundain, Yr Alban a Gogledd Iwerddon mae patrwm gwahanol yn ymddangos lle mae cefnogaeth i leihau mewnfudo yn llai, ac mae agweddau tuag at effaith mewnfudo yn ymddangos yn fwy ffafriol.

"Mae'n syndod - efallai y byddai rhywun yn disgwyl i Gymru a'r Alban fod yn fwy tebyg i'w gilydd, ond yr hyn a welsom oedd bod Cymru yn ymddangos yn debycach i fwyafrif Lloegr nag ydyw i'r Alban."

A yw mewnfudo yn dda neu'n ddrwg i economi'r wlad?
Lleoliad Drwg iawn % Da % Da iawn % Ymatebwyr:
Cymru 21.4 % 26% 9.2% 131
Yr Alban 11.9 % 23.5% 16.8% 226
Gogledd Iwerddon 11.3% 25.8% 16.1% 62
Llundain/De-Ddwyrain 18.3% 25.7% 14.8% 541
Gogledd Lloegr 24% 17.8% 11.2% 591

Roedd lleiafrif o'r rhai a holwyd ynglŷn â chaniatáu pobl o wledydd tlotach o du allan i'r Undeb Ewropeaidd i mewn i Brydain yn bendant o'r farn na ddylai'r rheini gael aros yn y DU.

Yng Nghymru, roedd bron i 19% yn gefnogol i'r farn honno. Ond yn Yr Alban ychydig llai na 11% oedd â'r farn eithafol.

Image copyright Getty Images
Image caption Roedd ardal Tiger Bay yng Nghaerdydd yn un o ardaloedd aml-ddiwylliant cyntaf y DU

"Y cwestiwn difyr yw pam bod Yr Alban yn llai cefnogol i leihau mewnfudo o gymharu â Chymru," meddai Dr Mann.

"Mae'r neges gan lywodraethau Cymru a'r Alban yn gryf o blaid mewnfudo.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud llawer o waith da ar lefel leol yn nhermau datblygu polisïau ar fforwm mewnfudwyr a'i strategaeth gynhwysol i ffoaduriaid.

"Ond mae'n ymddangos bod y data'n awgrymu bod pobl yn dal i fod rhywfaint yn anhapus gyda'r syniad o fewnfudo."

'Goresgyn stereoteipiau'

Dywedodd Llywodraeth Cymru, a dalodd am yr ymchwil o Gronfa Ymchwil Cymdeithasol ar gyfer Syniadau Newydd, eu bod wedi ymrwymo i wneud Cymru yn wlad oddefgar.

"Mae Cymru yn wlad groesawgar, sydd wedi ei hadeiladu ar egwyddorion tegwch a chydraddoldeb," meddai llefarydd ar ran y Llywodraeth.

"Fel rhan o'n cynllun cydlyniad cymdeithasol, rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol a sefydliadau eraill i ehangu dealltwriaeth, rhannu gwerthoedd a goddefgarwch o fewn cymunedau."

Nododd y llefarydd hefyd bod awduron yr astudiaeth yn cydnabod ffaeleddau yn y data, a bod angen dadansoddi pellach.

Ychwanegodd: "Rydym wedi ymrwymo i gefnogi sefydliadau sy'n gweithio gyda mewnfudwyr a'r cymunedau y maent yn byw a gweithio ynddynt i daclo unrhyw densiynau, ac i oresgyn stereoteipio negyddol a chwalu mythau.

"Bydd hyn yn cael ei atgyfnerthu a'i gynnwys fel rhan o weithredu'r Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i feithrin perthynas dda. Mae'n bwysig i bobl deimlo'n rhydd i fyw eu bywydau heb ddioddef gwahaniaethu."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.