Cyhoeddi rhaglen Gŵyl Jazz Aberhonddu
- Cyhoeddwyd

Bydd y gantores Dionne Warwick, un o berfformwyr mwyaf byd cerddoriaeth yr Unol Daleithiau ers y 1960au, yn ymddangos yng Ngŵyl Jazz Aberhonddu eleni.
Daeth y datganiad rai wythnosau wedi i drefnwyr newydd, grŵp cyfryngau a digwyddiadau o'r enw Orchard, gael eu dewis i redeg yr ŵyl.
Mae'r trefnwyr newydd wedi cymryd yr awenau ar ôl i drefnwyr Gŵyl y Gelli gyhoeddi eu bod yn rhoi'r gorau iddi ar ôl trefnu'r digwyddiad am ddwy flynedd.
Bydd y pianydd Huw Warren a'r grŵp jazz Lighthouse hefyd yn perfformio.
Mae caneuon enwog Dionne Warwick yn cynnwys Walk on By, Do You Know the Way to San Jose a Heartbreaker.
Mae hi'n dod o deulu cerddorol sydd yn cynnwys ei chyfnither, y diweddar Whitney Houston, a'u dwy fodryb Cissy a Thelma Houston.
Dywedodd cyfarwyddwr Orchard, Pablo Janczur: "Mae gan Jazz Aberhonddu enw da iawn yn rhyngwladol.
"Os gallwn ni ddod yn agos at ail-greu ysbryd oes aur yr ŵyl byddwn wedi cyflawni ein gwaith."
Cynhaliwyd Gŵyl Jazz Aberhonddu am y tro cyntaf ym 1984 ac mae wedi denu enwogion o fyd jazz ar draws y byd.
Dros y blynyddoedd mae cantorion ac offerynwyr yn cynnwys Amy Winehouse, Van Morrison, George Melly, Humphrey Lyttleton, Courtney Pine a Sonny Rollins wedi ymddangos yno.
Straeon perthnasol
- 20 Rhagfyr 2011
- 9 Awst 2009
- 7 Awst 2009