Cerddorfa ac iPads ochr yn ochr ym Miwmares
- Cyhoeddwyd

Fe fydd cerddorfa yn chwarae ochr yn ochr â theclynnau annisgwyl mewn cyngerdd arbennig yng Ngŵyl Biwmares.
iPads fydd yn cael eu defnyddio yn y cyngerdd sy'n cofnodi'r daith wnaeth dwy roced Voyager i'r gofod.
Warren Greveson sy'n gyfrifol am gyfansoddi'r gwaith ar gyfer Cerddorfa Siambr Cymru a fydd yn defnyddio'r offerynnau confensiynol.
Ond fe fydd pedwar o bobl yn cyfrannu at y sain drwy ddefnyddio gwahanol apps ar yr iPad.
"Y syniad yw uno technoleg gydag offerynnau traddodiadol," meddai Greveson.
Swyno
"Hyd y gwn i, does 'na neb arall wedi gwneud gwaith fel hwn.
"Fe fydd 'na fideo yn gweddu i'r perfformiad 30 munud hefyd.
"Mae'n mynd i fod yn noson ddiddorol."
Mae Greveson, sy'n wreiddiol o Fiwmares, yn dweud ei fod wedi ei swyno gan y teithiau gofod wrth dyfu yn y 1960au.
"Wedi nifer o syniadau fe es i ati i ail sgwennu'r gwaith, yr oeddwn eisoes wedi ei wneud, ar gyfer yr Ŵyl," meddai.
"O ddod o gefndir electroneg, fe es i ati i edrych ar y posibilrwydd o uno'r offerynnau confensiynol gyda synau electronig.
"Dyma pryd nes i ganfod yr holl apps oedd ar gael ar yr iPad a'r iPhone a dechrau ymchwilio i'r syniad o greu synau i weddu gyda'r offerynnau eraill."
Fe fydd y gwaith i'w weld a'i glywed am 7.30pm nos Fercher.