'Callia Carwyn,' medd ymgyrchwyr gwrth niwclear
- Cyhoeddwyd

Mae ymgyrchwyr wedi lansio ymgyrch cerdyn post gwrth-niwclear at Brif Weinidog Cymru.
Ar y Maes ddydd Mawrth fe alwodd mudiadau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a PAWB (Pobl Atal Wylfa B) ar Carwyn Jones i "gallio," gan ddadlau "y byddai effaith andwyol ar yr iaith a'r amgylchedd wrth gefnogi ynni niwclear".
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud mai Ynys Môn yw'r dewis gorau yn y DU ar gyfer datblygiad niwclear.
Cyn y brotest dywedodd Menna Machreth, llefarydd Gwynedd-Môn Cymdeithas yr Iaith: "Byddwn ni'n annog pawb i arwyddo un o'r cardiau dros yr haf.
"Mae yna opsiynau eraill sut i gynhyrchu egni, sef egni gwyrdd, opsiwn allai olygu ffyniant economaidd i'r ynys yn hytrach nag aros mewn tlodi fel ar ôl yr Wylfa bresennol."
Dywedodd fod angen i Mr Jones sylweddoli bod angen edrych i'r dyfodol gwyrdd yn hytrach na hen dechnoleg y mae cymaint o wledydd wedi troi eu cefnau arni.
"Wylfa B fydd yr hoelen olaf yn arch yr iaith Gymraeg ar Ynys Môn.
"Mae'r cyfrifiad nesaf yn mynd i ddangos dirywiad pellach yn y ganran sy'n siarad Cymraeg yn yr ardal a byddai mewnlifiad o 16,000 o bobl ar ben hynny yn andwyol i'r iaith a'i chymunedau ar yr ynys".
'Hynod siomedig'
Ynghynt eleni dywedodd Mr Jones fod penderfyniad cwmnïau E.ON a RWE npower i dynnu allan o godi gorsafoedd niwclear newydd ym Mhrydain yn "hynod siomedig" gan na fydden nhw'n parhau â'u cynlluniau i godi atomfa newydd ar safle'r Wylfa.
"Er hynny, rydym yn ymwybodol bod 'na lawer o ddiddordeb yn y safle ar Ynys Môn," meddai, gan ychwanegu y byddai Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth San Steffan i geisio canfod cwmni arall i ddatblygu Wylfa B.
Ar ran PAWB, dywedodd Dylan Morgan: "Yn sgil trychineb niwclear dychrynllyd Fukushima, mae gwlad ar ôl gwlad yn Ewrop wedi dewis cefnu ar ynni niwclear.
'Anodd deall'
"Dyna hanes yr Almaen, yr Eidal, y Swistir, Gwlad Belg, ac mae arwyddion bod Ffrainc hyd yn oed yn mynd i leihau ei dibyniaeth ar ynni niwclear.
Mae'n anodd deall pam bod Llywodraeth Glymblaid San Steffan yn dal i gefnogi codi gorsafoedd niwclear newydd.
"Anoddach byth yw deall pam bod Carwyn Jones a Llywodraeth Cymru yn mynnu cefnogi'n wasaidd safbwynt Llywodraeth San Steffan ar y dechnoleg ddrutaf bosibl sy'n fygythiad i amgylchedd, tir, iaith ac iechyd pobl Cymru".
Straeon perthnasol
- 1 Mehefin 2012
- 29 Mawrth 2012
- 26 Ebrill 2012
- 10 Ebrill 2012
- 30 Mawrth 2012