Tri cherbyd mewn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae un lôn o'r A40 yn Sir Gaerfyrddin ar gau yn dilyn gwrthdrawiad rhwng tri cherbyd yno.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Bont Lesneven rhwng yr A484/A48 - cylchfan Pensarn - a'r A4242 yn hwyr fore Llun.
Roedd y tri cherbyd fu mewn gwrthdrawiad ar y lôn orllewinol o'r ffordd ddeuol.
Does dim manylion i law hyd yma am unrhyw anafiadau i'r gyrwyr.