Morgannwg yn colli

Logo Morgannwg Image copyright Other

Llwyddodd Steve Davies a Zander de Bruyn i darro dros hanner cant o rediadau'r un wrth i Surrey sicrhau buddugoliaeth eitha cyffyrddus yn nghystadleuaeth 40 pelawd Clydesdale Bank yn Stadiwm Swalec, Caerdydd.

Roedd yr ymwelwyr wedi cyrraedd 173-9 gyda Davies, 58 a Bruyn 52.

Jim Allenby (28) oedd y gorau o fatwyr Morgannwg, gyda Gareth Rees (12) a Chris Cooke (11) yn ychwanegu at y sgor cyn i'r glaw darfu.

Oherwydd hynny bu'n rhaid dibynnu ar reolau Duckworth-Lewis gyda Surrey yn ennill o 57 o rediadau

Morgannwg - 107 am 9 (26 pelawd, targed 165)

Surrey - 173/9 (40 pelawd) -

Surrey yn fuddugol trwy ddull Duckworth-Lewis

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.