BBC Cymru Fyw

Ched Evans yn cyflwyno apêl yn erbyn ei ddyfarniad

Published
image copyrightOther
image captionCafodd Ched Evans ei garcharu am bum mlynedd am dreisio

Mae'r pêl-droediwr Ched Evans a gafwyd yn euog o dreisio menyw 19 oed wedi cyflwyno apêl yn erbyn y dyfarniad.

Cafodd Evans, 23 oed o'r Rhyl, ei garcharu am bum mlynedd ym mis Ebrill ar ôl i lys ei gael yn euog o dreisio'r fenyw mewn gwesty yn Rhuddlan ym mis Mai 2011.

Dywed llefarydd ar ran y Llys Apêl yn Llundain eu bod wedi derbyn y cais i apelio yn erbyn y dyfarniad a'r ddedfryd.

Ychwanegodd nad oedd unrhyw ddyddiadau wedi'u pennu ar gyfer y gwrandawiadau.

Ddydd Mercher cafodd Evans ei ryddhau gan ei glwb Sheffield United.

Sgoriodd y blaenwr 35 gôl mewn 42 gêm i Sheffield United y tymor hwn ac fe sgoriodd ddwy gôl mewn 13 gêm dros Gymru.

Straeon perthnasol

  • Clwb yn rhyddhau Ched Evans