Swyddogion yn argymell dymchwel tŷ mewn coeden
- Cyhoeddwyd

Mae cynghorwyr Sir Ddinbych yn cael eu hargymell i wrthod cais cynllunio ôl-weithredol ar dŷ mewn coeden gan ddyn busnes.
Mae swyddogion cynllunio am i Mike Walsh ddymchwel y strwythur mahogani ger ei gartref yn Rhuallt sydd o fewn Bryniau Clwyd - Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE).
Maen nhw'n dweud ei fod yn cael "effaith annerbyniol" ar y tirlun.
Mr Walsh a'i frawd Sean a sefydlodd cwmni trwsio yswiriant Anglia yn Nyserth gerllaw - busnes a werthwyd yn 2007 am £37 miliwn.
'Gresynu'
Mae adroddiad gan swyddogion i aelodau Pwyllgor Cynllunio Sir Ddinbych yn dweud bod y cydbwyllgor cynghori AHNE hefyd yn gwrthwynebu'r tŷ yn y goeden, sy'n mesur dros bedwar metr wrth ddau fetr ac sydd tua thri metr o'r ddaear.
Dywed y cydbwyllgor eu bod yn "gresynu am natur ôl-weithredol y cais, a bod nifer o geisiadau ôl-weithredol wedi cael eu cyflwyno ar y safle yma dros y blynyddoedd diweddar."
Mae'n dweud hefyd bod y tŷ yn y goeden yn "cyflwyno nodwedd anghydweddol ac amhriodol i'r tirlun gwledig yma."
Mae'r tŷ ar dir agored rhyw 170 metr o'r cartref a tua 150 metr o'r cymdogion agosaf.
Mae swyddogion yn argymell y dylid gwrthod y cais pan fydd cynghorwyr yn pleidleisio ar y mater yn eu cyfarfod brynhawn Mercher, gan ddweud ei fod yn groes i gymeriad yr ardal.
Maen nhw hefyd am gael yr hawl i weithredu er mwyn dymchwel y tŷ yn y goeden a "dychwelyd y tir at ddefnydd amaethyddol."
Mae BBC Cymru wedi gofyn i Mr Walsh am sylw.