Galeri newydd yn agor yng Nghaerffili

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Yr Arteri
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r galeri newydd yng nghanol tref Caerffili

Mae galeri newydd wedi agor yn nhref Caerffili gyda'r trefnwyr yn honni mai dyma'r unig un o'i fath yn y sir.

Bydd Yr Arteri yn rhan o ganolfan mwy gyda chynlluniau ar gyfer gweithdai a siop goffi.

Dywedodd cyfarwyddwr artistig y galeri, Jan Pennell: "Fel rhywun sydd yn frwdfrydig dros y celfyddydau ac yn byw yn Sir Caerffili dwi'n gwybod bod llawer o ddiddordeb mewn celfyddyd yma ac roeddwn yn teimlo bod yna wir alw am galeri.

"Er bod yna dros 171,000 o bobl yn byw yn y sir dyma fydd y galeri cyntaf."

Mae'r galeri yn cael ei redeg fel menter gymunedol.

Bydd yr arddangosfa gyntaf yn dangos gwaith gan rai o artistiaid mwyaf blaengar Cymru, gan gynnwys Brendan Burns, Iwan Bala, Osi Rhys Osmond, Chris Griffin a'r diweddar William Brown, yn ogystal â gwaith gan sawl artist newydd.

Bydd cyfres o arddangosfeydd, darlithoedd, gweithdai a digwyddiadau eraill drwy'r flwyddyn.