Damwain: Dau yn yr ysbyty

Hofrennydd Canolfan Awyrlu Chivenor
Image caption Aeth hofrennydd â'r fenyw i'r ysbyty.

Mae dyn a menyw yn yr ysbyty wedi i'w fan gwympo 250 metr i lawr ceunant ar Fynydd y Rhigos ger Treherbert ddydd Iau.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 4.20am.

Cafodd tri ambiwlans, cerbyd ymateb yn gyflym, tîm achub mynydd a hofrennydd o Ganolfan Awyrlu Chivenor eu galw.

Cyrhaeddodd diffoddwyr o Dreorci, Tonypandy, Merthyr, Malpas a'r Barri.

Aed â'r fenyw yn ei dauddegau gafodd sawl anaf yn yr hofrennydd i Ysbyty Treforys, Abertawe.

Aed â'r dyn mewn ambiwlans i Ysbyty Tywysog Charles ym Merthyr. Does dim manylion am ei anafiadau.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.