Gêm rygbi er cof am filwr
- Cyhoeddwyd

Cafodd gêm rygbi ei chynnal yn Aberteifi ddydd Sadwrn er cof am filwr o Sir Benfro oedd yn dioddef o anhwylder straen ôl-drawmatig.
Cafwyd hyd i gorff Is-Sarjant Dan Collins, 29 oed, wedi ei grogi mewn chwarel yn Sir Benfro Ddydd Calan.
Bwriad y gêm oedd dathlu bywyd Is-Sarjant Collins a chodi arian i elusen Iachau'r Clwyfau.
Fe wnaeth Côr Meibion Clwb Rygbi Aberteifi ganu ar y cae cyn y gêm.
Ar ôl y gêm roedd arwerthiant i godi arian i'r elusen.
Dywedodd cyd-sylfaenydd yr elusen, y cyn-feddyg milwrol Kevin Richards, eu bod wedi derbyn 40 o e-byst a 30 o alwadau ffôn oddi wrth filwyr ac aelodau teuluoedd wedi i gariad Is-Sarjant Collins, Vicky Roach, siarad yn gyhoeddus am ei ddioddefaint.
Dywedodd hi fod ei chymar wedi ceisio lladd ei hun yn y gorffennol.
Roedd yr Is-Sarjant yn nhalaith Helmand yn Afghanistan lle bu farw dau o'i ffrindiau.
Cefnogaeth
Llwyddodd yntau i osgoi cael ei ladd yno sawl gwaith a bu mewn dau ffrwydrad.
Un o'r rhai sydd wedi cyfrannu at yr elusen yw'r Aelod Cynulliad lleol Joyce Watson.
"Cefais fy nharo gan stori drasig yr is-sarjant - roeddwn am helpu a rhoi cefnogaeth i'r achlysur mewn rhyw ffordd neu'i gilydd," meddai.
"Cefais fy magu yn Aberteifi ac mae rhan o'm teulu dal yno. Rwyf yn byw yn Hwlffordd felly roedd y peth yn teimlo'n agos.
"Mewn awyrgylch mor drist mae'n dda fod y gymuned wedi dod at ei gilydd i ddangos eu cefnogaeth i achos mor bwysig."
Straeon perthnasol
- 18 Ionawr 2012
- 11 Ionawr 2012
- 6 Ionawr 2012
- 4 Ionawr 2012