Ail ddiwrnod anodd i Forgannwg

Logo Morgannwg Image copyright Other

Roedd hi'n ddiwrnod hir ac anodd i fowlwyr Morgannwg ar ail ddiwrnod eu gêm ym Mhencampwriaeth y Siroedd yn Derby.

Roedd Morgannwg wedi sgorio 236 yn eu batiad cyntaf ddydd Mercher, gyda'r tîm cartref yn dechrau ar 22 heb golled ddydd Iau.

Er i Forgannwg gipio wiced gynnar, fe ddilynodd safiad o 170 am yr ail wiced rhwng Guptill a Madsen, gyda Martin Guptill o Seland Newydd yn cyfrannu 132 a Madsen 122 heb fod allan erbyn diwedd y chwarae.

Marcus North oedd prif sgoriwr Morgannwg yn eu batiad cyntaf wedi iddyn nhw alw'n gywir a dewis batio.

A North hefyd gynigiodd rhywfaint o obaith i Forgannwg gyda'r bêl tua diwedd y dydd.

Wedi i Guptill golli ei wiced, fe gipiodd North dair wiced am 40 i adael Swydd Derby ar 335 am 5 wiced.

Bydd y tîm cartref yn gobeithio ychwanegu at y sgôr fore Gwener cyn ceisio cipio wicedi Morgannwg yn eu hail fatiad, a nhw yw'r ffefrynau ar hyn o bryd.

Pencampwriaeth y Siroedd: Adran 2 - Sgôr ddiweddaraf

Swydd Derby v. Morgannwg - Ail ddiwrnod

Morgannwg - (batiad cyntaf) 236(North 79, Wallace 45)

Swydd Derby - (batiad cyntaf)335 am 5 wiced (Guptill 132, Madsen 122 h.f.a. - North 3 wiced am 40)

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.