Ffrind Gary Speed yn codi arian
- Cyhoeddwyd

Bydd cyn chwaraewr pêl-droed rhyngwladol yn rhedeg i fyny ac i lawr Yr Wyddfa er mwyn codi arian i elusennau sy'n gysylltiedig gyda Gary Speed.
Hon yw'r orchest ddiweddara gan Matt Jones sydd wedi dweud ei fod yn penodi 2012 yn flwyddyn i godi arian er cof am Mr Speed, cyn rheolwr tîm Cymru..
Bydd mam a thad Gary Speed wrth droed y mynydd er mwyn dangos eu cefnogaeth i ymgyrch Matt Jones, cyn chwaraewr canol cae Leeds a Chymru.
Yn cynorthwyo Matt fydd Andi Jones, dydd sydd wedi ennill ras yr Wyddfa pump o weithiau.
"Hon fydd yr her anoddaf i fi hyd yn hyn," meddai Matt sydd wedi rhedeg dau farathon a thri hanner marathon mewn cyfnod o ychydig wythnosau.
'Ar goll'
"Dwi erioed wedi cerdded i fyny'r Wyddfa heb son am redeg i fyny'r mynydd," meddai'r gŵr o Lanelli, wnaeth roi'r gorau i bêl-droed oherwydd anaf i'w asgwrn cefn.
"Mae'n hyfryd cael cefnogaeth Carol a Roger. Mae hynny'n golygu llawer.
"Rwy hefyd yn ddiolchgar i Andi am gytuno i redeg gyda fi - yn fwy na dim mae'n siŵr byddwn yn mynd ar goll hebddo!"
Mae Matt, sy'n 31 oed, yn gobeithio codi mwyn na £10,000 i Sefydliad Sir Bobby Robson a Sefydliad John Hartson.
Bydd o hefyd yn codi arian ar gyfer Cymdeithas Anafiadau Asgwrn Cefn.
Fe wnaeth Matt gwblhau Marathon Llundain fis diwethaf mewn amser o dair awr 52 munud.
Mae'n gobeithio cwblhau'r ras i fyny ac i lawr yr Wyddfa mewn tua 2 awr neu dwy awr a hanner.
Cafwyd hyd i gorff Mr Speed, oedd yn 42 oed, yn ei gartref yn Huntington ger Caer ym mis Tachwedd y llynedd.
Straeon perthnasol
- 9 Rhagfyr 2011
- 4 Ionawr 2012
- 30 Ionawr 2012