Cyhoeddi enwau ymgeiswyr Dysgwr y Flwyddyn 2012

(chwith i'r dder gyda'r cloc) Ashok Ahir; Rhian Dickenson, Isaías Grandis a Mark Morgan Image copyright Eisteddfod Genedlaethol
Image caption Y pedwar fydd yn cystadlu yn y rownd derfynol

Ar ôl deuddydd o gystadlu'r wythnos diwethaf mae enwau'r pedwar ymgeisydd a fydd yn cymryd rhan yn rownd derfynol cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn eleni wedi eu cyhoeddi.

Roedd 37 o bobl wedi cystadlu eleni, y nifer uchaf erioed, gyda nifer ohonyn nhw'n byw mewn gwahanol rannau o'r byd.

Oherwydd hynny, bu'n rhaid cynnig darpariaeth cyfweld gyda'r dechnoleg ddiweddara ac am y tro cyntaf erioed fe gafwyd cystadlu dros y we.

Y pedwar a ddaeth i'r brig wedi deuddydd o gystadlu brwd yng Nghaerdydd, Sain Dunwyd a thros y we, yw Ashok Ahir o Gaerdydd; Rhian Dickenson o'r Fenni; Isaías Grandis o Trevelin, Chubut a Mark Morgan o Feisgyn.

Bydd y pedwar yn cystadlu am deitl Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg eleni.

'Diddorol'

"Mae'r safon eleni wedi bod yn arbennig o uchel, a braf yw gweld cynifer wedi cystadlu," meddai Trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol, Hywel Wyn Edwards.

"Mae'n arwydd clir o dwf a phwysigrwydd y gystadleuaeth hon fel rhan o'r Eisteddfod Genedlaethol.

"Roedd hon yn gystadleuaeth ddiddorol eleni, gan ein bod wedi defnyddio technoleg Skype er mwyn rhoi cyfle i bawb gael eu cyfweld, a braf yw gweld bod un o'r rheini a gafodd ei gyfweld drwy'r dechnoleg newydd yma wedi cyrraedd y rownd derfynol.

"Mae hyn yn arwydd clir bod modd dysgu Cymraeg i safon arbennig o dda ym mhob rhan o'r byd.

"Mae'r pedwar a ddaeth i'r brig yn ardderchog, ac yn sicr o ysbrydoli cymaint o bobl eraill i fynd ati i ddysgu Cymraeg.

"Roedd straeon pawb mor wahanol â'r cyfan yn ddiddorol, gyda rhesymau di-rif dros ddysgu'r iaith.

"Mae'r pedwar llwyddiannus yn llawn haeddu'u lle yn y rownd derfynol ac edrychwn ymlaen at eu gweld unwaith eto bryd hynny ac rydym yn ddiolchgar i bawb a ymgeisiodd am gystadlu a bod yn rhan o gystadleuaeth i'w chofio."

Noddwyr

Agored Cymru yw noddwyr cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn eleni.

"Ein llongyfarchion cynhesaf i bawb a gymerodd ran yn y gystadleuaeth eleni," meddai Janet Barlow, Prif Weithredwr y sefydliad.

"Mae'r ymroddiad a safon yn eithriadol o uchel, ac mae Agored Cymru'n falch i fod yn noddi digwyddiad a gweithgaredd mor boblogaidd."

Cyflwynir y Tlws eleni gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg, Prifysgol Caerdydd, gyda'r wobr o £300 yn rhoddedig gan Gronfa Gwynfor, Y Barri.

Fe fydd y rownd derfynol ddydd Mercher, Awst 8, a'r seremoni wobrwyo y noson honno yng Ngwesty'r Bear, Y Bont-faen.

Ashok Ahir

Image copyright Eisteddfod Genedlaethol

Yn wreiddiol o Wolverhampton mae o erbyn hyn yn byw yng Nghaerdydd gyda'i wraig, Manon, a'r plant, Osian, Noa a Maya.

Punjabi yw iaith gyntaf Ashok, sy'n 42 oed, a'r Gymraeg yw ei bumed iaith.

Mae'n gweithio fel Golygydd Gweithredol Gwleidyddiaeth, Adran Wleidyddiaeth BBC Cymru.

Dechreuodd ddysgu Cymraeg tua 2005 gyda thiwtor ac erbyn hyn mae'n defnyddio'r iaith bob dydd yn ei waith ac yn y gymuned.

Mae Ashok yn Gyd-Gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Treganna a Than yr Eos, sy'n golygu ei fod yn gorfod cyfweld staff yn Gymraeg.

Mae hefyd yn weithgar iawn gyda gweithgareddau diwylliannol Cymraeg y brifddinas.

Ei obaith drwy gystadlu yw datblygu'i Gymraeg a'i defnyddio mwy mewn sefyllfaoedd cyhoeddus.

Rhian Dickenson

Image copyright Eisteddfod Genedlaethol

Cafodd ei magu yng Ngilwern, ac erbyn heddiw, mae'n byw yn Y Fenni gyda'i gŵr a'i merch, Gwenan Lois.

Mae'n bennaeth Adran y Gymraeg yn Ysgol Harri'r VII yn y dref, ac yn dysgu Cymraeg fel ail iaith hyd at safon Lefel A.

Dechreuodd ddysgu Cymraeg yn yr ysgol, gan sefyll arholiadau TGAU a Lefel A, cyn graddio yn y Gymraeg a Hanes ym Mhrifysgol Caerdydd.

Ar ôl dilyn cwrs TAR ym Mhrifysgol Aberystwyth, bu'n gweithio yn Ysgol Gyfun Aberaeron am bum mlynedd, ac yn ystod y cyfnos hwn, bu hefyd yn dysgu Cymraeg i bobl a oedd wedi symud i fyw i'r ardal.

Erbyn hyn, mae'r Gymraeg yn rhan o'i bywyd bob dydd, ac mae'i merch wedi dechrau yn y Cylch Meithrin lleol.

Ei gobaith yw perswadio'i gŵr i ddysgu'r iaith ac i fynd i Batagonia.

Isaías Grandis

Image copyright Eisteddfod Genedlaethol

Treuliodd ei fywyd cynnar yng Nghórdoba cyn ymgartrefu gyda'i deulu yn Nhrevelin, Godre'r Andes.

Nid yw'n dod o dras Cymraeg ond ar ôl symud i Drevelin, magodd ddiddordeb yn yr iaith a glywai yn cael ei siarad gan ei gymdogion.

Dechreuodd fynychu dosbarthiadau Cymraeg yn Ysgol Gymraeg Yr Andes yn 15 mlwydd oed, a chafodd ysgoloriaeth i fynd i Gymru yn 2006.

Dychwelodd i Gymru yn 2009 ac arsylwi yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog a mynychu cwrs iaith dwys ym Mhrifysgol Caerdydd.

Derbyniodd hyfforddiant hefyd yn nulliau dysgu iaith i blant mewn dwy ysgol gynradd.

Dychwelodd i Batagonia a chymryd swydd fel tiwtor Cymraeg lleol yn Ysgol Gymraeg Yr Andes, athro yn Ysgol y Felin, athro Hanes Cymru yn yr Ysgol Uwchradd leol ac fel athro Twristiaeth yn Ysgol Uwchradd Corcovado.

Mae'n ymdrechu i godi delwedd y Gymraeg o fewn y gymuned drwy ddenu myfyrwyr, hen ac ifanc, i'r Ysgol Gymraeg.

Mae'n gobeithio cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn ei ardal leol, a'i freuddwyd pennaf yw adeiladu Ysgol Ddwyieithog (Cymraeg a Sbaeneg) yn Nhrevelin fel Ysgol yr Hendre yn Nhrelew.

Mark Morgan

Image copyright Eisteddfod Genedlaethol

Daw Mark, sy'n 39 oed o Gastell-nedd yn wreiddiol, ond erbyn hyn mae'n byw ym Meisgyn gyda'i wraig Ceri a'i ddau fab, Rhys a Gruff. Mae'n gweithio fel Uwch Ringyll Catrodol yn y Fyddin Brydeinig.

Penderfynodd Mark a Ceri fagu'r plant trwy gyfrwng y Gymraeg, felly sylweddolodd Mark mai'r unig ddewis oedd ganddo oedd ceisio dysgu'r iaith.

Oherwydd ei swydd yn y Fyddin roedd yn amhosibl iddo fynychu cwrs wythnosol. Aeth i Brifysgol Llanbed am gwrs preswyl sylfaenol yn 2006 ac wedyn dechreuodd fodiwlau ar-lein. Parhaodd gyda'i astudiaethau yn ystod ei daith i Afghanistan yn 2007.

Derbyniodd A* yn ei arholiad TGAU Cymraeg Ail-Iaith yn 2008. Ar ôl hyn penderfynodd astudio am radd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant a bydd yn graddio yr haf hwn. Mae'n falch iawn ei fod wedi dysgu Cymraeg.

Bu'n her fawr iddo gyfuno'i astudiaethau gyda'i swydd ddwys yn y Fyddin. Mae wedi bod yn Afghanistan ddwywaith am flwyddyn ers dechrau dysgu Cymraeg.

Llwyddodd i ddod o hyd i bobl a oedd yn siarad Cymraeg mewn lleoedd diarffordd dros y byd a sefydlodd Gymdeithas Gymraeg yn Afghanistan.

Mae'n gadael y Fyddin ym mis Mehefin a hoffai fynd i'r Brifysgol am flwyddyn er mwyn gwneud ymarfer dysgu cyn gweithio fel athro Cymraeg.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.