Damwain: Dau yn yr ysbyty

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, BBC
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd y lloches ei chwalu

Aed â dau i'r ysbyty wedi i gar daro lloches smygwyr ychydig wedi 8pm nos Wener.

Roedd y ddamwain y tu allan i'r Cross House yn Nhalacharn, Sir Gaerfyrddin.

Y ddau yw'r dyn oedd yn y lloches a menyw oedd yn gyrru'r car.

Does dim manylion am eu cyflwr.