Rhybudd wedi 'digwyddiadau amheus' yn Y Rhyl
- Cyhoeddwyd

Mae'r Gwasanaeth Tân wedi rhybuddio perchnogion adeiladau gwag i fod yn wyliadwrus wedi dau dân amheus o fewn dau ddiwrnod.
Cafodd pedair injan dân o'r Rhyl a'r Prestatyn eu hanfon oherwydd tân yng Ngwesty'r Grange yn Y Rhyl am 5.17am fore Gwener.
Roedd digwyddiad tebyg wedi bod yno bedair blynedd yn ôl.
Cafodd tair injan dân o Lanelwy, Glannau Dyfrdwy a'r Fflint eu hanfon oherwydd tân yn Ysbyty Lluest yn yr ardal ar Fai 10 am 00.32am.
Dywedodd y Rheolwr Gostwng Tanau Bwriadol, Kevin Jones: "Mae'n ymddangos bod y ddau dân diweddar yn fwriadol.
'Difrifol'
"Yn ffodus, chafodd neb ei anafu ond mae'r digwyddiadau'n ddifrifol gan y gallai bywydau fod wedi eu peryglu heb yn wybod i neb.
"Gan fod diffoddwyr wedi eu galw roedd bywydau mewn perygl."
Dywedodd na fyddai'r gwasanaeth yn goddef tanau bwriadol.
"Rydym yn cydweithio'n agos â'r heddlu a bydd troseddwyr yn cael eu herlyn."
Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555 111.
Straeon perthnasol
- 5 Ebrill 2009
- 21 Mawrth 2008