Rhybudd am law trwm yn y de

Glaw mawr
Image caption Mae'n debyg y bydd hyd at ddwy fodfedd o law mewn cyfnod byr

Rhybuddiodd y Swyddfa Dywydd y bydd glaw trwm nos Fercher a dydd Iau.

Mae'r rhybudd rhwng 7pm nos Fercher a 9am ddydd Iau i siroedd y de a de Powys.

Mae disgwyl i'r gwynt gryfhau hefyd.

Gallai rhwng 20 a 50 milimedr, hynny yw rhwng un a dwy fodfedd, o law gwympo o fewn cyfnod byr.

Yn ôl y rhagolygon fe fydd hi'n sychach ddydd Gwener ac yn sych gan fwyaf dros y penwythnos oherwydd cefnen o wasgedd uchel.

Mae glaw mewn rhannau eraill o Gymru yn ogystal gyda glaw trwm mewn rhannau.

Straeon perthnasol

Hefyd ar y BBC

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.