West Ham 3-0 Caerdydd

Image caption Ricardo Vaz Te a Carlton Cole yn dathlu ail gôl West Ham

West Ham 3-0 Caerdydd (5-0 ar gyfanswm dros ddau gymal)

Cyn y cymal cyntaf rhwng Caerdydd a West Ham roedd rheolwr Caerdydd, Malky Mackay, wedi dweud mai dim ond ar ôl 180 munud y byddai'r gêm ar ben.

Ond os nad oedd dechrau'r ail gymal ddwy gôl ar ei hôl hi yn ddigon drwg, fe aeth pethau'n waeth i'r Adar Gleision wedi 15 munud yn Upton Park.

Chwaraewr canol cae profiadol y tîm cartref, Kevin Nolan, beniodd y bêl i gefn y rhwyd i'w gwneud hi'n gyfanswm o 3-0 dros y ddau gymal i'r tîm o Lundain.

Cyn yr egwyl roedd tasg Caerdydd eisoes yn amhosib bron.

Daeth ail gôl i dîm Sam Allardyce wrth i'r ymosodwr o Bortiwgal, Ricardo Vaz Te, sgorio un arall - fe dderbyniodd y bas gan Guy Demel cyn tanio ergyd i gornel ucha'r rhwyd o ymyl y cwrt cosbi.

Mae'r sefyllfa yn wahanol y tymor hwn i Gaerdydd nag yn y tri thymor diwethaf.

Wedi iddo gael ei benodi yn haf y llynedd, bu'n rhaid i Malky Mackay ail-adeiladu'r tîm wedi i nifer fawr o'r garfan adael cyn dechrau'r tymor presennol.

Roedd sawl un wedi darogan y byddai'r Adar Gleision yn gwneud yn dda i orffen yn hanner uchaf y tabl - mae'r tîm yn sicr wedi cyflawni llawer mwy na hynny, ac wedi cyrraedd Wembley yn rownd derfynol Cwpan Carling, gan golli o drwch blewyn i Lerpwl.

Ond roedd y gemau ail-gyfle un cam yn ormod, ac roedd profiad West Ham, a'u rheolwr Sam Allardyce, ar y lefel uchaf yn amlwg.

Wrth i Gaerdydd frwydro'r ddewr tua'r diwedd am gôl gysur, fe ddaeth trydedd i West Ham wrth i Nicky Maynard rwydo i'w gwneud hi'n 3-0 ar y diwrnod a 5-0 dros y ddau gymal.