Manchester United 2-0 Abertawe

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Empics
Disgrifiad o’r llun,
Ashley Young

Mae gobeithion Manchester Unitred o gadw eu gafael ar bencampwriaeth yr Uwchgynghrair dal yn fyw ar ôl curo Abertawe.

Ond doedd yna ddim crasfa i'r ymwelwyr, er gwaetha'r ffaith fod angen i United sgorio llond llaw o goliau er mwyn cadw eu gobeithion yn fyw.

Aeth y tîm cartref ar y blaen ar ôl 28 munud, Valencia yn cyrraedd y llinell ac yn tynnu'r bêl yn ôl Carrick, ac yna i Paul Scholes.

O fewn munudau bu bron i Hernandez sgorio'r ail, ond aeth ei beniad uwchben y bar.

Aeth United 2-0 ar y blaen gyda Young yn ergydio i gornel y rhwyd.

Doedd yna ddim sgôr yn yr ail hanner.

Roedd angen sgôr da ar United ar ôl i Manchester City guro Newcastle 2-0 yn gynharach yn y dydd.

Mae'r ddau dîm o Fanceinion yn gyfartal ar bwyntiau, ond mae gwahaniaeth goliau City yn llawer gwell.

Man UTd: De Gea, Evra, Jones, Ferdinand, Smalling, Carrick, Young, Scholes, Valencia, Rooney, Hernandez

Eilyddion: Amos, Rafael, Giggs, Park Ji-sung, Nani, Cleverley, Berbatov

Abertawe: Vorm, Williams, Taylor, Caulker, Rangel, Sinclair, Dyer, Allen, Gower, Sigurdsson, Graham

Eilyddion: Tremmel, Tate, Monk, Britton, Routledge, McEachran, Moore

Tabl Uwchgynghrair Barclays

Mai 6, 2012

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol