Llofruddio Peter Lewis: Dyn yn y ddalfa

Peter Lewis Image copyright Other
Image caption Bu farw Peter Lewis wedi iddo gael ei drywanu yn ei gartref yng Nghaerdydd

Mae dyn 31 oed, ar gyhuddiad o lofruddio, yn y ddalfa ar ôl bod gerbron Llys Ynadon Caerdydd.

Bu farw Peter Lewis, 68 oed, yn Ysbyty Athrofaol Cymru ar ôl cael ei drywanu unwaith yn ei stumog yng nghyntedd cymunedol tŷ lle oedd ei fflat yn Heol Claude yn Y Rhath.

Cafodd William Stephen Jones, 31 oed o ardal Adamsdown, ei arestio ddydd Llun.

Yn y llys cadarnhaodd ei enw a'i gyfeiriad a bydd gerbron Llys y Goron Caerdydd ar Fai 8.

Roedd yr heddlu wedi dweud bod Mr Lewis yn "oedolyn bregus ag anawsterau dysgu" oedd yn byw ar ei ben ei hun.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.