Carthion: Traeth Y Rhyl yn dal ar gau
- Cyhoeddwyd

Bydd y traeth ar gau tan o leiaf amser cinio ddydd Iau
Bydd traeth y Rhyl ar gau tan o leiaf amser cinio ddydd Iau wedi i garthion ollwng i'r môr.
Mae cynllun brys ar waith ond mae pobl wedi eu rhybuddio i gadw draw.
Cafodd pobl rybudd i beidio â mynd i mewn i'r môr oherwydd bod cyfarpar gorsaf bwmpio'n ddiffygiol.
Dywedodd Asiantaeth yr Amgylchedd fod pwmp wedi torri oherwydd llifogydd yn sgil glaw trwm.
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi dweud: "Ni ddylai pobl nac anifeiliaid fynd i mewn i'r môr hyd nes yr hysbysir yn wahanol."
Dywedodd y cyngor y byddai'r traeth ar gau tan 1pm ddydd Iau pan fyddai swyddogion yn adolygu'r sefyllfa.