Morrell yn canolbwyntio ar ail gyfle

Andy Morrell Image copyright Other
Image caption Bydd Andy Morrell yn arwain Wrecsam i Luton nos Iau

Mae rheolwr Wrecsam, Andy Morrell, yn mynnu na fydd ennill dyrchafiad awtomatig yn cael effaith ar ei chwaraewyr wrth iddyn nhw baratoi am y gemau ail gyfle.

Cafodd y Dreigiau gyfanswm o 98 pwynt y tymor hwn, ond Fleetwood Town orffennodd ar frig yr adran gan gipio'r un lle awtomatig yn Adran 2 o'r Gynghrair Bêl-droed.

Bydd rhaid i Morrell a'i dîm nawr fynd i Luton nos Iau ar gyfer y cymal cyntaf o'r gemau ail gyfle.

Dywedodd Morrell: "Fe gawson ni dymor gwych - mae 98 pwynt yn gyfanswm anhygoel.

"Rhaid i ni sicrhau nawr ein bod yn cwblhau'r gwaith da.

"Fe fydd hi'n anodd oherwydd mae yna elfen o hap-chwarae am y gemau ail gyfle, ond fe fyddwn ni'n gwneud ein gorau i gyrraedd Wembley."

Collodd Wrecsam i Luton yn y gemau ail gyfle y llynedd o gyfanswm o 5-1 dros y ddau gymal.

Byddai buddugoliaeth i Wrecsam y tro hwn yn eu gweld yn herio naill ai Mansfield neu Efrog yn Wembley am y cyfle i godi i Adran 2.

"Rydym wedi bod yn paratoi am hyn ers wythnosau," ychwanegodd Morrell.

"Fy nod oedd cael pawb yn holliach ac yn barod am y ddwy gêm nesaf yma, ac rydym wedi llwyddo i wneud hynny mwy neu lai.

"Daeth gôl i bob un o'r sgorwyr y penwythnos diwethaf, ac rwy'n hapus iawn am hynny.

"Mae'n fater nawr o ddewis tîm sy'n mynd i ennill oddi cartref yn Luton."

Straeon perthnasol