Prop Cymru Adam Jones yn cefnogi hawliau menywod
- Cyhoeddwyd

Bydd prop tîm rygbi Cymru Adam Jones yn galw ar ddynion i gefnogi hawliau menywod mewn ymgyrch sy'n cael ei lansio yn y Cynulliad.
Nod Cymorth Menywod Caerdydd yw recriwtio dynion i herio trais yn y cartref, cam-drin ac anghydraddoldeb.
Mae dynion yn cael eu gwahodd i ymuno yng nghynllun addysg ac eiriolaeth Caerdydd a Bro Morgannwg.
Eisoes mae 40 o wirfoddolwyr benywaidd wedi eu recriwtio.
'Annerbyniol'
"Mae trais yn erbyn menywod yn annerbyniol," meddai prop y Gweilch sydd wedi chwarae 80 o weithiau dros ei wlad.
"Dylen ni dderbyn nad yw'r mater yn berthnasol i fenywod yn unig ond rhywbeth y dylai pawb ceisio atal.
"Rhaid inni i gyd chwarae ein rhan wrth newid ein cymunedau i sicrhau nad yw menywod ar draws Cymru yn agored i drais," meddai'r chwaraewr rygbi o Abercraf.
"Rwy'n falch i fod yn ddyn sy'n gwneud safiad o ran beth sy'n gywir ac rwy'n galw ar ddynion eraill i wneud yr un safiad."
'Ar eu hennill'
Dywedodd arweinydd y prosiect, Claudia Donati: "Mae dynion yn cydnabod eu bod wedi eu cyfyngu gormod oherwydd rôl rhyw.
"Byddan nhw ar eu hennill oherwydd mwy o gydraddoldeb a dealltwriaeth.
"Dyna pam bod y prosiect angen dynion i wneud safiad am gydraddoldeb rhyw fel bod newidiadau positif."