Twitter: Arestio naw o bobl

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun, Cafodd Ched Evans ei garcharu am bum mlynedd am dreisio

Mae'r heddlu sy'n ymchwilio am fod enw dynes gafodd ei threisio wedi ei gyhoeddi ar y we wedi arestio naw o bobl.

Eisoes roedd tri dyn o dde Swydd Efrog wedi eu harestio a'u rhyddhau ar fechnïaeth.

Cafodd enw'r ddynes ei ryddhau ar ôl i lys gael y pêl-droediwr Chad Evans yn euog o'i threisio mewn gwesty yn Rhuddlan, Sir Ddinbych.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd eu bod wedi arestio tri dyn a thair dynes o'r Rhyl, Prestatyn a Llanddulas mewn cyrchoedd fore Mawrth.

Mae'r chwech yn cael eu holi yng ngorsaf heddlu Llanelwy.

Pum mlynedd

Yn ddiweddarach cafodd dynes ei harestio ym Mrychdyn, Sir y Fflint, a dau ddyn yn ardaloedd Bae Colwyn ac Abergele.

Cafodd Ched Evans, oedd yn chwarae i Sheffield United, ei garcharu am bum mlynedd am fod yn euog o dreisio'r ddynes 19 oed.

Y penwythnos ar ôl yr achos cafodd enw'r ddynes ei ryddhau ar wefan Twitter.

Mae gan ddioddefwyr sydd wedi eu treisio neu'n diodde' o ymosodiadau rhywiol yr hawl i fod yn anhysbys am oes.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd eu bod yn disgwyl y bydd mwy'n cael eu harestio.

Mae Evans, sydd hefyd wedi cynrychioli Cymru, yn dweud y bydd yn apelio yn erbyn y dyfarniad.

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol