Stereophonics i chwarae mewn cyngerdd Olympaidd

Kelly Jones o'r Stereophonics
Image caption Bydd Kelly Jones a gweddill y Stereophonics yn cynrychioli Cymru yn y cyngerdd Olympaidd

Bydd y Stereophonics yn cynrychioli Cymru mewn cyngerdd yn Hyde Park, Llundain, i nodi dechrau'r Gemau Olympaidd.

Bydd y cyngerdd yn cynnwys artistiaid o bob rhan o'r DU, gyda Duran Duran yn arwain y digwyddiad.

Paolo Nutini fydd yn cynrychioli'r Alban, gyda Snow Patrol yn perfformio i Ogledd Iwerddon.

Bydd y cyngerdd ar Orffennaf 27 yn cydfynd â seremoni agoriadol y gemau fydd yn cael ei darlledu ar sgriniau mawr yn y parc rhwng perfformiadau.

Mae'r tocynnau ar gyfer y dathliadau agoriadol yn mynd ar werth am 9:00am ddydd Gwener, Mai 4.

Bydd cyngerdd arall i nodi diwedd y gemau'n cael ei gynnal yn Hyde Park ar Awst 12 gydag artistiaid fel Blur, New Order a The Specials yn perfformio.

Hefyd ar y BBC

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.