Heddlu De yn lansio ymchwiliad yn dilyn llofruddiaeth

0Parhau mae'r ymchwiliad ar ôl i ddyn gael ei lofruddio yng Nghaerdydd.

Fe gafodd ei gorff ei ddarganfod mewn tŷ yn ardal y Rhath, Caerdydd, fore dydd Sadwrn.

Nid yw'r heddlu wedi cyhoeddi enw'r dyn a fu farw eto.

Mae'r heddlu yn chwilio am ddyn gafodd ei weld yn Stryd Oakfield yn dilyn y digwyddiad yn Ffordd Claude tua 2.45am ddydd Sadwrn.

Ystafell ymchwilio

Disgrifir y dyn fel dyn gwyn yn gwisgo top llyw golau â hwd iddo gafodd ei weld yn rhedeg i Heol Casnewydd.

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth gan unrhywun a welodd neu clywodd unrhywbeth amheus yn ardal Ffordd Claude neu Stryd Oakfield rhwng 1am a 3am fore Sadwrn.

Mae ystafell ymchwilio wedi'i sefydlu yng ngorsaf Heddlu Canolog Caerdydd ac mae'r ymchwiliad yn cael ei arwain gan y Ditectif Uwcharolygydd Stuart McKenzie.

Dywedodd Uwcharolygydd McKenzie: " Rwy'n annog aelodau'r cyhoedd i'n helpu ynghylch yr achos hwn."

Dylai unrhywun â gwybodaeth gysylltu â Gorsaf Heddlu Canolog Caerdydd ar 02920 571530 neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.