Caerdydd yn cael ail gyfle

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun, Don Cowie sgoriodd ail gôl Caerdydd

Mae Caerdydd wedi cymhwyso ar gyfer gemau ail gyfle'r Bencampwriaeth wedi iddynt guro Crytal Palace 2-1 oddi cartref ym Mharc Selhurst ddydd Sadwrn.

Bydd yr Adar Gleision yn herio West Ham yn y rownd gynderfynol.

Bydd y cymal cyntaf yn cael ei gynnal yn Stadiwm Caerdydd am 7.45pm Ddydd Iau Mai 3 a bydd yr ail gymal yn cael ei gynnal ym Mharc Upton am 4.30pm ddydd Llun Mai 7.

Teithiodd Caerdydd i Lundain gan wybod y byddai pwynt mwy na thebyg yn ddigon i orffen yn y chwech uchaf.

Cic rydd

Roedd hi'n brynhawn nerfus i gefnogwyr Caerdydd wedi iddyn nhw weld eu tîm yn diodde' torcalon sawl tro yn y gemau ail gyfle dros y tymhorau diweddar.

Cafodd yr Adar Gleision ddechrau gwael wrth i Wilfried Zaha roi'r tîm cartref ar y blaen wedi 13 munud.

Unionodd Peter Whittingham y sgôr gyda chic rydd ar ôl 53 munud.

Aeth Caerdydd ar y blaen naw munud yn ddiweddarach pan rwydodd Don Cowie wedi i Mark Hudson benio tafliad hir Aaron Gunnarsson i gyfeiriad Cowie yn y cwrt cosbi.

Tarodd hwnnw foli heibio gôl geidwad Crystal Palace i sicrhau y byddai'r Adar Gleision yn cyrraedd y gemau ail gyfle am y drydedd flwyddyn yn olynol.

Collodd yr Adar Gleision i Reading yn y rownd gynderfynol y llynedd, ac fe gollon nhw yn y rownd derfynol yn Wembley i Blackpool yn 2010.

Crystal Palace: Price, McCarthy, Moxey, Parsons, Parr, Ambrose, Garvan, O'Keefe,Scannell (Pedroza - 54' ), Zaha, Murray.

Eilyddion: Fitzsimons , Wynter, De Silva, Sekajja,

Caerdydd: Marshall, McNaughton, Taylor, Hudson, Turner, Whittingham, Cowie, Lawrence, Gunnarsson, Miller, Mason,

Eilyddion: Heaton, Blake, Mchail, Earnshaw, Gestede,

Ebrill 28, 2012