Lido Afan yn ennill Cwpan Cynghrair Cymru

Uwchgyngrhair Cymru Image copyright Not Specified

Lido Afan 1-1 Y Drenewydd (Lido Afan yn ennill 3-2 yn dilyn ciciau o'r smotyn)

Mae Lido Afan wedi ennill Cwpan Cynghrair Cymru am y trydydd tro.

Curodd Lido Afan y Drenewydd yn dilyn cystadleuaeth ciciau o'r smotyn wedi i'r ddau dîm gael gêm gyfartal 1-1 yng Nghoedlan y Parc, Aberystwyth

Arwr Lido Afan oedd y gôl geidwad Craig Morris.

Arbedodd Morris dair cic o'r smotyn wrth i Lido Afan guro'r Drenewydd 3-2 yn y gystadleuaeth ciciau o'r smotyn.

Buddugoliaeth

Arbedodd Morris giciau o'r smotyn gan Kieran Mills-Evans, Nick Rushton a Shane Sutton i sicrhau buddugoliaeth gyntaf Lido Afan yn y gystadleuaeth hon er 1994.

Roedd Lido Afan yn meddwl eu bod wedi ennill y gêm yn dilyn gôl gan Mark Jones wedi 42 munud.

Ond daeth Y Drenewydd yn gyfartal pan rwydodd Nick Rushton ar ôl 92 munud.

Methodd y naill dîm na'r llall sgorio yn ystod yr hanner awr o amser ychwanegol.

Enillodd Lido Afan y cwpan ym 1993 a 1994.

Hwn oedd y tro cynta' i'r Drenewydd ymddangos yn rownd derfynol Cwpan Cynghrair Cymru.

Lido Afan: Craig Morris, Daniel Sheehan, Kristian James, Craig Hanford, Carl Evans, Carl Payne, Daniel Thomas (Liam Thomas 65'), Anthony Finselbach (David D'Auria 110'), Mark Jones (Alex Rickett 79'), Andy Hill, Leon Jeanne.

Eilyddion: Sam Hodge, Alex Gammond, Adam Llewellyn, Cerith Williams

Y Drenewydd: Nick Thomas, Gareth Partridge (Callum Wright 82'), Max Penk, Matthew Cook, Andy Jones, Shane Sutton, Robbie Millington, Kieran Mills-Evans, Nicky Rushton, Luke Boundford (Steve Blenkinsop 25'), Jamie Price

Eilyddion: Connor Courtney, Tom Worthington, Dave Howarth

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.