Cyhoeddi Eisteddfod yr Urdd Sir Benfro

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, BBC news grab

Croesawodd Sir Benfro Eisteddfod yr Urdd 2013 i'r ardal ddydd Sadwrn gyda digwyddiad yng nghanol tref Hwlffordd.

Ychydig dros flwyddyn cyn i'r Eisteddfod ymweld â'r ardal, cyd-gerddodd gannoedd o blant, pobl ifanc, athrawon, rhieni a chefnogwyr drwy ganol y dref cyn ymgasglu am jamborî o ganu.

Roedd yr orymdaith yn cychwyn ar ddiwrnod o weithgareddau i gyhoeddi'r Eisteddfod yn Sir Benfro gan gynnwys gêm bêl-droed yn stadiwm y dref, Dôl-y-Bont, a chyngerdd gyda'r nos yng nghwmni Côr Meibion Hwlffordd ac enillwyr lleol yn Eisteddfodau'r Urdd.

Cychwynnodd yr orymdaith o faes parcio Heol Dewi am 11 am gyda'r dorf yn anelu am faes parcio Neuadd y Sir erbyn hanner dydd.

Gweithgareddau

Yno, fe wnaeth Gwenda Owen arwain cefnogwyr, plant a phobl ifanc yr ardal fel ei gilydd mewn gwledd o ganu, bandiau lleol gan gynnwys SambaDoc yn diddanu a chriw Stwnsh yn ogystal â nifer o stondinau arddangos.

Am 2.30pm bu gêm bêl droed wrth i aelodau Pwyllgor Ieuenctid Eisteddfod yr Urdd, Sir Benfro 2013 herio rhai o sêr y byd teledu yng Nghymru gan gynnwys Rhydian Bowen Phillips, Gareth Delve, Alun Williams, Geraint Hardy, Tristan Ellis Morris, Rhys ap Trefor a Max a Iolo o'r gyfres Pobol y Cwm.

Ac am 7pm yn Ysgol Syr Thomas Picton, Hwlffordd bu Côr Meibion Hwlffordd ac enillwyr Eisteddfod yr Urdd yn diddanu ac yn dirwyn gweithgareddau'r dydd i ben.

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol