Taylor yn amddiffyn penderfyniad i enwi Ched Evans yn nhîm y flwyddyn Adran Un.

Ched Evans yn cyrraedd Llys y Goron Caernarfon Image copyright Other
Image caption Cafodd Ched Evans garchar am bum mlynedd am dreisio merch 19 oed

Mae Prif Weithredwr Cymdeithas y Chwaraewyr Proffesiynol, Gordon Taylor, wedi amddiffyn y penderfyniad i enwi blaenwr Sheffield United, Ched Evans, yn nhîm y flwyddyn Adran Un, ddyddiau yn unig ar ôl i'r pêl-droediwr 23 oed gael ei garcharu am dreisio.

Cafodd y bleidlais ei chynnal ymhlith y pêl-droedwyr fis Mawrth.

"Barn ar y pêl-droed oedd hyn gan ei gyd-chwaraewyr nid barn foesol," meddai Taylor.

"Petai o wedi cael ei dynnu allan o'r tîm, fe fyddai wedi creu mwy o drafodaeth.

"Fe fyddai wedi golygu addasu'r bleidlais.

"Mae'r bleidlais yn cael ei wneud ar allu pêl-droed."

Goliau

Dywedodd bod pawb wedi eu hysgwyd gan y ddedfryd ond na fyddai neb yn gwybod a fyddai hynny wedi cael effaith ar y bleidlais.

"Dyw hyn ddim mewn unrhyw fod yn golygu fod y Gymdeithas Pêl-droed yn cymeradwyo treisio."

Fe wnaeth y chwaraewr rhyngwladol sgorio 35 gôl mewn 42 gêm i Sheffield United y tymor yma.

Cafodd ei garcharu ddydd Gwener ddiwethaf yn Llys y Goron Caernarfon am bum mlynedd ar ôl ei gael yn euog o dreisio merch 19 oed mewn gwesty yn Rhuddlan ym mis Mai 2011.

Ychwanegodd Cadeirydd y Gymdeithas, Clarke Carlisle, bod y bleidlais yn un "democrataidd ar allu proffesiynol, nid yn benderfyniad moesol".

Dywedodd eu bod nhw wedi trafod cadw enw Evans yn y tîm a'i pheidio.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.