Newidiadau i wneud ysgolion yn 'fwy atebol'
- Cyhoeddwyd

Bydd awdurdodau lleol a gweinidogion yn ei chael hi'n haws ymyrryd os yw ysgolion yn methu â chyrraedd y nod, o dan ddeddfwriaeth newydd.
Gallai rhieni hefyd fynnu cyfarfodydd gyda llywodraethwyr fel rhan o newidiadau i geisio gwneud ysgolion yn fwy atebol, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Mae'r Mesur Safonau Ysgolion yn amlinellu amodau a allai arwain at ddisodli cyrff llywodraethu.
Mae hefyd yn symleiddio'r broses o gau ysgolion sydd â llai na 10 o ddisgyblion.
Bydd hefyd mwy o bwysau cyfreithiol ar gynghorau i gael cynlluniau ar gyfer darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg digonol.
Mae'r Gweinidog Addysg Leighton Andrews wedi codi amheuon am ysgolion ar ôl adroddiadau beirniadol a chymariaethau rhyngwladol.
Bydd y ddeddfwriaeth yn galluogi cynghorau i ymyrryd yn gynt i roi rhybudd i ysgolion sydd i weld yn methu ac yn cryfhau eu pwerau i atal byrddau llywodraethu.
Brecwast
Byddai hefyd yn cael gwared ar ddyletswydd i gynnal cyfarfodydd blynyddol i rieni.
Yn hytrach, byddai'n rhaid i gyrff llywodraethu gynnal cyfarfodydd petai 10% o rieni'n galw am un.
Fyddai dim modd cynnal mwy na thri chyfarfod mewn blwyddyn academaidd.
Ymhlith y newidiadau eraill fyddai'r angen i gynghorau lleol ddarparu brecwast am ddim i blant pan fyddai ysgolion cynradd yn gofyn amdanyn nhw.
Byddai gan awdurdodau addysg hefyd ddyletswydd i gynnig darpariaeth resymol ar gyfer gwasanaeth cynghori annibynnol.
Ar hyn o bryd mae'r ddau bolisi uchod yn cael eu hariannu gyda grantiau penodol gan Lywodraeth Cymru, ond byddai'r mesur yn trosglwyddo'r arian i gronfa gyffredinol yr awdurdodau lleol.
Yn ôl y llywodraeth, "heb ddeddfwriaeth i gefnogi hyn, mae 'na berygl y gallai awdurdodau lleol benderfynu peidio â pharhau gyda'r rhaglenni hyn."
Cinio ysgol
Mae 'na hefyd gynllun i roi rhywfaint o ryddid i gynghorau benderfynu ar bris cinio ysgol, gan ganiatáu iddyn nhw leihau'r gost ar gyfer teuluoedd mawr.
Ar hyn o bryd, mae pob plentyn yn gorfod talu'r un swm.
Gallai'r broses o gau ysgolion gyda llai na 10 disgybl gael ei symleiddio.
Fyddai dim angen ymgynghoriad cyhoeddus cyn cyhoeddi rhybudd statudol i gau.
"Mae'r mesur yn cynnwys nifer o gynigion fyddai'n gwneud ysgolion yn fwy atebol trwy uno, diweddaru a, lle bo angen, wella safonau a rheolaeth," meddai Mr Andrews.
"Mae'r Mesur yn sefydlu prosesau fydd yn cyfrannu at ein hagenda i wella safonau mewn ysgolion; newid a chyflymu'r broses statudol ar gyfer trefnu ysgolion ac ehangu'r posibilrwydd o wneud penderfyniadau'n lleol."
Yn ôl llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar addysg, Angela Burns: "Tra bod 'na agweddau positif i'r Mesur hwn, mae'n hollbwysig bod y llywodraeth Lafur yn cael y cydbwysedd grym yn iawn a bod y gweinidog yn anwybyddu'r temtasiwn amlwg i roi gormod o bŵer yn ei ddwylo'i hun.
"Mae 'na awdurdodau lleol a chonsortia wedi'u sefydlu ar draws Cymru ac fe ddylent gael rhyddid i wneud eu gwaith yn iawn."
Dywedodd Anna Brychan, Cyfarwyddwr undeb prifathrawon yr NAHT, bod hwn yn ddarn sylweddol o ddeddfwriaeth a bod 'na groeso cynnes i sawl agwedd ohono, yn enwedig y mesurau i gael gwared ar y pwysau biwrocrataidd sydd ar ysgolion.
"Ond bydd angen cadw llygad barcud ar ymyrraeth awdurdodau lleol mewn ysgolion.
"Rydym yn edrych am ymyrraeth ddeallus a chefnogol er mwyn codi safonau.
"Wrth i waith consortiwm ddatblygu, mae 'na lawer o bryder a oes gan bob awdurdod lleol y gallu i wneud hynny ar hyn o bryd."
Straeon perthnasol
- 11 Hydref 2011
- 29 Mehefin 2011