AS yn galw am refferendwm Arglwyddi

Glyn Davies MP Image copyright Other
Image caption Glyn Davies AS

Mae Aelod Seneddol Ceidwadol wedi galw am refferendwm am gynlluniau i gael aelodau etholedig i Dŷ'r Arglwyddi.

Mae disgwyl i gynlluniau fydd yn cael eu datgelu ddydd Llun argymell cyfnewid y Tŷ uchaf gydag ail siambr o aelodau gyda'r mwyafrif wedi eu hethol trwy bleidlais.

Dywed AS Maldwyn, Glyn Davies, y gallai'r cynllun newid y modd y mae Prydain yn cael ei llywodraethu, gan ychwanegu na ddylid bwrw 'mlaen gyda'r cynllun heb refferendwm.

Mae'r cynllun yn rhan o'r cytundeb clymblaid rhwng y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Mae gweinidogion am weld siambr sydd â mwyafrif neu'r cyfan o'r aelodau yn etholedig, ac mae'r Democratiaid Rhyddfrydol am weld y cynllun yn rhan o araith y Frenhines y mis nesaf.

Mae cyn arweinydd Llafur yn Nhŷ'r Arglwyddi, Ivor Richard, wedi cadeirio pwyllgor o ASau ac arglwyddi i drafod y mater, ac fe fydd y pwyllgor yn datgelu manylion fore Llun.

Ond mae nifer o Geidwadwyr yn gwrthwynebu'r newid.

Un aelod

Credir mai dim ond un AS Ceidwadol oedd yn gefnogol i'r syniad mewn cyfarfod o Bwyllgor 1922 - pwyllgor aelodau meinciau cefn y Ceidwadwyr - mewn cyfarfod ddydd Iau.

Dywed Llafur eu bod yn gefnogol i Arglwyddi etholedig, ond am gael refferendwm ar y mater.

Dywedodd Mr Davies wrth siarad ar BBC Radio Wales ddydd Sul: "Rwy'n credu y dylwn ni fod yn barod i fwrw 'mlaen gyda'r cynllun, ond yn bersonol hoffwn weld refferendwm.

"Mae'n newid mawr i'r modd y mae Prydain yn cael ei llywodraethu, nid dim ond Tŷ'r Arglwyddi, ond Tŷ'r Cyffredin yn ogystal."

Doedd cyn arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru ac Aelod Cynulliad Dwyrain De Cymru, yr Arglwydd German, ddim wedi ei argyhoeddi gan ddadl Mr Davies am refferendwm.

Dywedodd: "Wedi'r cwbl rydym yn ystyried newidiadau mawr i'r Alban ar hyn o bryd sydd ddim yn cynnwys refferendwm am gyfrifoldebau ariannol Yr Alban.

"Nid yw'r hyn sy'n digwydd yma yn mynd i newid y trefniadau sydd yna'n barod rhwng y ddau dŷ.

"Rwy'n credu bod yr amser wedi dod lle dylai'r bobl sy'n creu ein deddfau gael eu hethol gan y bobl ac nid cael eu penodi gan arweinwyr y pleidiau ac eraill, ac rwy'n credu mai dyna'r cyfreithlondeb sydd angen ar unrhyw senedd."

Straeon perthnasol