Casnewydd 1-0 Alfreton

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Other

Casnewydd 1-0 Alfreton

Mae Casnewydd yn bendant wedi llwyddo i aros yn Uwchgynghrair Blue Square Bet am dymor arall yn dilyn buddugoliaeth yn erbyn Alfreton ddydd Sadwrn.

Un pwynt oedd angen ar Gasnewydd i aros yn yr adran, ond roedd un gôl yn ddigon i sicrhau triphwynt ddydd Sadwrn.

Bu'n rhaid aros am gryn dipyn cyn daeth y gôl, ond fe sgoriodd Romone Rose wedi 38 munud wedi pas gan Sam Foley.

Fe all tîm Justin Edinburgh ymlacio nawr cyn eu hymweliad â Wembley ar gyfer rownd derfynol Tlws yr FA.

Ebrill 17 2012