Caerdydd 1-1 Leeds

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Other

Caerdydd 1-1 Leeds United

Bydd rhaid i'r Adar Gleision aros tan gêm ola'r tymor cyn sicrhau eu lle yn y gemau ail gyfle oni bai bod canlyniadau eraill ddydd Sadwrn yn mynd o'u plaid.

Er i Gaerdydd fynd ar y blaen yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sadwrn gyda gôl gan Joe Mason bedwar munud cyn yr egwyl, yr ymwelwyr gafodd mwyafrif y meddiant.

Caerdydd gafodd fwy o ergydion at y gôl yn ystod y gêm. Ond roedd cyfuniad o arbedion gan Andy Lonergan a chwaraewyr Caerdydd yn wastraffus o flaen gôl yn gostus.

Gydag ychydig dros chwarter awr o'r gêm yn weddill, fe ddaeth Leeds yn gyfartal - croesiad Paul Connolly a Luciano Becchio yn glir yn y cwrt chwech i benio i'r rhwyd.

Os na fydd Middlesbrough yn ennill yn ddiweddarach brynhawn Sadwrn, fe all tîm Malky Mackay ymlacio a dechrau paratoi am y gemau ail gyfle.

Os fydd tîm y gogledd-ddwyrain yn cipio triphwynt, fe fydd rhaid i Gaerdydd gael pwynt oddi cartref yn erbyn Crystal Palace yn eu gêm olaf i fod yn saff o'u lle.

Ebrill 21, 2010