Mansfield 2-0 Wrecsam

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, Other

Sgoriodd golgeidwad Mansfield o gwrt cosbi ei hun wrth i'r tîm cartref guro Wrecsam 2-0.

Er bod Mansfield yn drydydd yn y gynghrair mae Wrecsam yn sicr o orffen yn ail gydag ond dwy gêm o'r tymor yn weddill.

Mae hynny'n golygu pe bai'r timau yn cwrdd eto'r tymor hwn, bydd hynny yn gêm derfynol y gemau ail gyfle yn Wembley.

Anthony Howell sgoriodd gôl gyntaf Mansfield gyda pheniad o chwe llath.

Ebrill 20 2012