Gweilch 31 -12 Dreigiau

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Shane Williams yn diolch i'r cefnogwyr

Fe wnaeth cais yn symudiad ola'r gêm gan Shane Williams goroni buddugoliaeth yn erbyn y Dreigiau.

Mae'r pwynt bonws bron yn ddigon i sicrhau gem gartref arall i Shane Williams cyn iddo ymddeol o'r gêm.

Pe bai'r Gweilch yn gorffen y tymor yn yr ail safle yna maent yn sicr o gêm gartref yng nghystadleuaeth y pedwar olaf.

Roedd y Dreigiau, yn annisgwyl, o fewn cyrraedd i'r tîm cartref tan i'r Gweilch gael cais cosb yn y 78 munud.

Ond roedd dal digon o amser i Williams fylchu a chroesi'r llinell. Cafodd yr asgellwr yr anrhydedd o drosi'r trosgais.

Daeth cais cyntaf y Gweilch ar ôl 20 munud diolch i'r blaenasgellwr Ryan Jones.

Ond er gwaetha absenoldeb Luke Charteris oherwydd anaf i'w ysgwydd, fe wnaeth y Dreigiau sicrhau ei bod hi'n gêm agos.

Torf fwyaf

Daeth ail gais y Gweilch ar ôl nifer o droseddau yn y scrum.

Cafodd Nathan Buck ei anfon i'r gell cosb, ac yna fe wnaeth y dyfarnwr Nigel Owen roi cais cosb i'r Gweilch.

Ond llwyddodd esgid maswr y Dreigiau Lewis Robling i gadw'r Dreigiau yn y gêm

Daeth ail gais cosb i'r Gweilch ar ddiwedd y gêm, ond roedd dal amser i Williams goroni'n perfformiad o flaen torf fwyaf y tymor.

Yn y gêm arall nos Wener, roedd Leinster yn fuddugol oddi cartref yn erbyn Ulster, 8-16. Bydd y sgôr yn helpu achos y Scarlets sy'n brwydro yn erbyn Ulster a Glasgow i orffen yn y pedwar uchaf.