BBC Cymru Fyw

Mark Williams yng nghanol ffrae am y Crucible

Published
image copyrightGetty Images
image captionMark Williams oedd pencampwr y byd yn 2000 a 2003
Mae pencampwr snwcer y byd ar ddau achlysur, Mark Williams, wedi codi ffrae ar noswyl y bencampwriaeth eleni wrth gondemnio cartref y gystadleuaeth.
Ar ei wefan Twitter, mae pencampwr 2000 a 2003 wedi beirniadu Theatr y Crucible yn Sheffield, gan ychwanegu ei fod yn gobeithio bydd y bencampwriaeth yn symud i China yn fuan.
Mae Pencampwriaeth y Byd wedi cael ei chynnal yn y Crucible yn flynyddol er 1977, ac mae o dan gytundeb i aros yno tan 2015.
Dywedodd Williams fod Sheffield yn lle braf, ond bod y Crucible ei hun yn lle ofnadwy, gan ddefnyddio geiriau anweddus wrth wneud hynny.
Bu Williams mewn trafferth gyda rheolwyr y gamp ym mis Ionawr wedi iddo gael ei gyhuddo o ddefnyddio iaith anweddus ar y wefan.

Pum Cymro

Yn fuan wedyn ychwanegodd Williams, 37 oed, frawddeg arall gan ddweud: "Rydw i mewn trafferth ar ôl y trydar diwethaf!
"Mae World Snooker (y corff sy'n rheoli'r gamp) wedi ffonio - ddim yn siŵr os mai am i fi regi, neu fy mod i'n casáu'r Crucible, neu am fy mod am i'r bencampwriaeth symud i China."
Bydd Williams yn wynebu Liu Chuang o China yn rownd gyntaf Pencampwriaeth y Byd eleni.
Bydd y bencampwriaeth yn dechrau yn Sheffield ddydd Sadwrn, ond bydd rownd gyntaf Williams yn dechrau ddydd Mercher.
Mae pedwar Cymro arall yn y gystadleuaeth eleni, sef Matthew Stevens, Ryan Day, Dominic Dale a Jamie Jones.